Powlenni wedi'u turnio â llaw

Mae Blodwen wedi comisiynu casgliad o bowlenni cawl traddodiadol, llwyau a lletwadau wedi'u turnio â llaw gan gasgliad o seiri arbenigol yn yr ardal.

Mae'r llestri hardd hyn yn cymryd oriau i'w perffeithio. Dewisir y pren yn ofalus, a chaiff ei dorri yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn sicrhau bod y pren yn olau a sgleiniog heb farciau nac olion.

Yna caiff ei sychu am rhwng 6 mis a blwyddyn, cyn y gellir dechrau ar y broses araf o'i durnio a'i gerfio.

Mae'r broses yn dilyn templed hynafol, sydd wedi'i drosglwyddo o un genhedlaeth i'r nesaf, gan ddefnyddio troedlath neu ddurn polyn, a weithredir gan droed y crefftwr.