 |
 |
Deunyddiau I'r Cartref
Mae Blodwen yn canolbwyntio ar ddau ddiwydiant gwledig, crochenwaith a turnio coed,sydd bob amser wedi chwarae rhan bwysig yn mywyd cartref ac arferion gwerin Cymru.
Yn gyntaf,crochenwaith a llestri pridd Cymreig.Roedd casglu crochenwaith i'w ddefnyddio neu ei arddangos yn obsesiwn i lawer o ferched Cymru, yn yr hen ddyddiau. Byddai casgliad sylweddol o waith ceramig addurniadol ar y Dresel yn dynodi statws a hunaniaeth ac yn arwydd o falchder unigolyn yn ei gartref. Byddai llestri pridd yn aml yn rhan bwysig o waddol merch ac fe'u cyflwynwyd fel arfer yn ystod cyfarfodydd neu drafodaethau cyn y briodas.
Yn ail, coed a chrefft hynafol o durnio coed.Arweiniodd y ddibyniaeth ar y sycamorwydd a oedd mor gyffredin ledled gorllewin Cymru at dwf diwydiant llewyrchus a oedd yn enwog ymhell y tu hwnt i Gymru, gyda Dyffryn Teifi, a phentref Abercych yn arbennig, yn adnabyddus am eu teuluoedd o gerfwyr coed.
Elfennau pwysicaf y diwydiant hwn oedd turnio powlenni a cherfio llwyau.
Mae Blodwen wedi comisiynu dau gasglaid newydd - un o grochenwaith, un o goed, sydd yn dathlu'r etifeddiaeth yma.
|