 |
 |
Tecstilau
Gwlân a'r Diwydiant Gwlân Cymreig
Y diwydiant gwledig mwyaf cyffredin a phwysig yng Nghymru oedd gweithgynhyrchu gwlân; gellir dadlau mai'r diwydiant gwlân oedd diwydiant pwysicaf Cymru o'r Oesoedd Canol hyd at y 19eg ganrif.
Roedd yn sail masnach allforio ledled y byd ac yn ystod ail hanner y 19eg ganrif datblygodd pentrefi Dyffryn Teifi yng ngorllewin Cymru - Llandysul , Pentre-cwrt, Henllan, Drefach, Castell Newydd Emlyn - yn brif ganolfanau cynhyrchu gwlân yng Nghymru.
Roedd cannoedd o felinoedd gwledig ledled Cymru yn ystod y 19eg ganrif, ond erbyn diwedd y 1970au dim ond 70 oedd ar agor a dim ond llond llaw sydd ar ôl heddiw.
Gydag etifeddiaeth amlwg y diwydiant gwlân Cymreig o'i chwmpas a'r melinau prin sy'n gweithio o hyd, mae Blodwen wedi mynd ati i greu dau gasgliad o tecstilau newydd a chlasurol. Mae Blodwen wedi ddefnyddio'r brethynnau gwreiddiol, yn sail ar gyfer Casgliad newydd o decstilau - oll wedi'u hail-greu a'u gwehyddu yn lleol yn ein melin sy'n 150 oed. Mae'r casgliad clasurol ddim ond yn cynwys darnau prin ac unigryw ond mae hefyd yn cynnig cipolwg o hanes cymdeithasol ac economaidd Dyffryn Teifi yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.
|