View your basketEnglishlogin here
Modern Welsh Tradition from Cardigan Bay

Croeso i Gasgliad Gwlan Hydrefol Blodwen

Mae'r nosweithiau yn tywyllu'n gynt, mae'r naws yn newid ac rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddiwrnodau hydrefol euraidd a nosweithau wrth y tân.

Mae Blodwen wedi bod wrthi'n brysur yn comisiynu ei chrefftwyr lleol detholedig i greu cynnyrch tŷ, gwaith gweu a thecstiliau hardd - pob un wedi eu gwneud â llaw o wlan pur Cymreig.

Wrth gefnogi Prosiect Gwlan Tywysog Cymru a'i Wythnos Wlan fydd yn cael ei lawnsio yn fuan, mae Blodwen, dros yr Hydref, yn hyrwyddo popeth yn ymwneud â gwlan.

Wedi ei lleoli yn Sir Aberteifi, mae Blodwen yn ymwybodol iawn o'r angen i gefnogi ein ffermwyr defaid lleol, sydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi gweld pris ei cnuoedd yn gostwng i oddeutu £1 yr un.

Mae gwlan yn un o'n nwyddau naturiol mwyaf gwerthfawr. Mae Blodwen ar flaen y gad â yn ymgyrchu yn erbyn y tueddiad o 'ffasiwn cyflym, defnyddiadwy' ac yn canolbwyntio ar gynnig cynnyrch o'r safon uchaf.