Amdano Blodwen |
MANIFFESTO BLODWEN |
|
Mae Blodwen yn ymrwymedig i warchod ac adfywio sgiliau gwledig traddodiadol a hyrwyddo crefftwyr. Gyda'r pwyslais ar gyfuno cynllun cyfoes gyda sgiliau a thraddodiadau a drosglwyddwyd drwy'r cenedlaethau, yn ogystal â phwysigrwydd 'prynu'n lleol', nod BLODWEN yw helpu i sicrhau adfywiad gwirioneddol, gan gyfrannu at gymunedau gwledig wrth iddynt gynnal eu ffordd o fyw a'u bywoliaeth. Cred Blodwen mewn talu am ansawdd - gwobrwyo crefftwyr am eu dawn i gynhyrchu nwyddau wedi'u gwneud â llaw, prydferth ac unigryw - eitemau etifeddol a drysorir am byth Mae Blodwen yn frwdfrydig dros Gymru, gwlad ag iaith, diwylliant a thraddodiad hynafol ond eto'n fodern sy'n parhau i ffynnu a chael eu dathlu. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau darpariaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg ym mhob agwedd ar ein cynhyrchion a'n gweithrediadau. Mae Blodwen yn awyddus i feithrin a datblygu ymdeimlad o gymuned lle mae unigolion yn cydweithio i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam bod ein holl gynhyrchion yn cael eu gwneud yng Nghymru gan grefftwyr lleol, sy'n aml yn gweithio ar y cyd. Mae Blodwen yn ymrwymedig i ddathlu cefn gwlad a'i draddodiadau. Mae gennym barch mawr tuag at ei rythmau naturiol, ei dymhorau a'i gynhaeaf. Mae Blodwen yn osgoi ffermio diwydiannol, carthu ar y môr, bwydydd cyflym a chynhyrchu mewn swp. Mae Blodwen yn edmygu sefydliadau llawr gwlad sy'n galluogi cymunedau i ffynnu. Rhannwn werthoedd Merched y Wawr*, rydym yn falch o Urdd Gobaith Cymru* a dathliadau diwylliannol yr Eisteddfodau, a chefnogwn Glybiau Ffermwyr Ifanc. Mae'n amser ail-ddarganfod yr ymdeimlad o berthyn i'r sefydliadau hyn a mentrau gwych eraill Mae athroniaeth Blodwen yn un syml sy'n dychwelyd i fyd natur, gan wneud a thrwsio, chwilota a darganfod Dim ond cynhyrchion a wnaed yn lleol y mae Blodwen yn eu gwerthu, gan ein bod bob amser yn ystyried ein hôl troed carbon. Defnyddiwn gynhyrchion organig pan fo hynny'n bosibl. Mae ein holl ddeunydd pecynnu wedi'i wneud o ddeunyddiau eildro, a wnaed yng Nghyrmu. Mae Blodwen yn addo cynnig nwyddau wedi'u gwneud â llaw, hardd a wneir yn draddodiadol o adnoddau naturiol, lleol. Y cyfan a wnawn yw ychwanegu ychydig o arddull a dyluniad cyfoes, ac ychydig o dechnoleg i'ch galluogi i fwynhau gwerth canrifoedd o grefftwaith, wedi'i ddosbarthu i'ch drws. Dymunwn hapusrwydd i chi wrth eu derbyn BLODWEN - YN DOD A FFORDD O FYW Y CREFFTWR I'CH FFORDD CHI O FYW Nodiadau : Nodyn gan y SEFYDLWYR Denise Lewis "Diolch am ymweld â BLODWEN .
Mae Blodwen Yn Diolch : Afon Solutions - ein 'geeks' rhagorol
|












